Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru – Darlith Addysg Cymru 2013

Cyflwynodd yr Athro Laura McAllister anerchiad i'r cynadleddwyr yn Narlith Addysg Cymru flynyddol Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn gynharach y mis yma. Mae ei haraith i'w gweld yn llawn isod.

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru – Darlith Addysg Cymru 2013, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Nos Lun Hydref 21ain 2013

Foneddigion a boneddigesau, westeion anrhydeddus.

Diolch yn fawr iawn i chi am y croeso a hefyd am fy ngwahodd i i gyflwyno darlith Addysg Cymru eleni.

Mae’n anrhydedd enfawr cael cyflwyno’r ddarlith hon, yn enwedig o ystyried bri a llwyddiannau’r darlithwyr blaenorol, pob un ohonynt yn uchel iawn eu parch yn eu maes.

Mae’r ffaith bod cymaint o ddiddordeb, nid yn unig yn y proffesiwn addysg, ond ymhlith pawb ohonom sy’n gweithio ym maes chwaraeon, iechyd a gwleidyddiaeth, yn dynodi ymrwymiad gwirioneddol a didwyll i osod chwaraeon wrth galon ein hysgolion yng Nghymru.

Yn ogystal â theimlo’n eithriadol falch, yn dilyn yn ôl troed unigolion mor anrhydeddus, mae cyflwyno darlith Addysg Cymru eleni fymryn yn frawychus hefyd.
Rydw i’n cael fy atgoffa o fod yn fyfyriwr PhD ifanc a dibrofiad ar fin cyflwyno papur cynhadledd ar y cyd gyda chydweithiwr academaidd hŷn (o’r ‘hen do’). Wrth i mi baratoi i siarad, fe ddywedodd: "Peidiwch â phoeni, codwch ar eich traed a gwnewch eich gorau, ac mi gyfeiriaf innau at unrhyw beth na fyddwch chi wedi’i gael yn gwbl gywir..."
Rydw i’n academydd, yn wyddonydd gwleidyddol ac yn arweinydd chwaraeon. Rydw i’n gobeithio y bydd yr arbenigwyr proffesiynol yn y gynulleidfa’n maddau i mi am fy niffyg arbenigedd i raddau ar addysg, ond gallaf eich sicrhau fy mod yn gwneud iawn am hynny gyda fy nyhead a’m hymrwymiad i wella’r ffordd y mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn gallu dylanwadu ar fywydau ein disgyblion ni.    

Yn yr un ysbryd o hunanddibrisio, mae pobl wedi dweud wrthyf i fy mod i’n anarferol, hynny yw:
             yn anarferol fel cadeirydd benywaidd ar gorff a noddir
             yn anarferol fel un sy’n dal i weithio fel academydd a hefyd, ar yr un pryd, yn meddu ar rôl allanol arwyddocaol ac uchel ei phroffil mewn bywyd cyhoeddus 
             ac yn anarferol am fy mod i’n ferch yn haenau llywodraethu uchaf y byd chwaraeon.
Ond wedyn, rydw i’n credu bod rhaid i ni ddathlu’r anarferol!

Rydyn ni i gyd yn gynnyrch ein magwraeth. Cefais i fy ngeni a’m magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda theulu fy mam i gyd yn dod o Nantyffyllon yng Nghwm Llynfi.

Roedd llawer o ddylanwadau amlwg ar fy mywyd, gan gynnwys fy mam, a oedd yn ein hannog ni fel plant i ymestyn am y sêr. Nid cyfoeth ariannol na braint oedd yn dod â llwyddiant i chi, ond gwaith caled a phenderfyniad a hunan-gred. Doeddech chi byth yn dweud ‘Dydw i ddim yn gallu’ wrth fy mam, ac roedd yn dweud wrthym drwy’r amser bod posib i ni gyflawni beth bynnag roeddem yn ei ddymuno mewn bywyd.

Roedd ei thad – fy nhaid – yn ddylanwad pwysig arall. Yn bennaf gan mai ef wnaeth fy nghyflwyno i i’w ddau angerdd mwyaf (dau beth sydd, yn fy marn i, wedi fy niffinio i fel person): gwleidyddiaeth a phêl droed.

Roedd fy nhaid yn löwr ac yn Swyddog y Caban ym Mhwll Glo Coegnant ym Maesteg. Rwy’n ei gofio’n mynd â ni yn blant bach i gyfarfodydd yr NUM ac i gyfarfodydd gwleidyddol pwysig eraill. Roeddwn i’n rhy ifanc i ddeall pwy oedd y dynion (a dynion oedden nhw i gyd) oedd yn siarad, ac yn rhy ifanc i ddeall ystyr eu hareithiau mawr.

Plentyn bach oeddwn i’n rhedeg o gwmpas yn y coridorau ac yn chwarae cuddio. Ond fe ddysgais i ddigon oddi wrth yr awyrgylch yn y neuaddau hynny i weld bod hon yn gymuned a oedd yn ysgwyddo cyfrifoldeb a rheolaeth ac yn ceisio pennu ei ffawd ei hun, ac roedd addysg yn rhan bwysig iawn o hynny.

Fy nhaid hefyd aeth â mi i fy ngêm bêl droed gyntaf, i gêm Dinas Caerdydd ym Mharc Ninian a minnau’n ddim ond tair oed. Roeddwn i wedi gwirioni, nid dim ond ar gefnogi’r Adar Gleision (a’r Adar Gleision fyddan’ nhw am byth!), ond ar bêl droed yn gyffredinol. Roeddwn i wrth fy modd yn gwylio, ond roeddwn i’n mwynhau chwarae fwy fyth.

Rwy’n dal i allu teimlo’r wefr honno, a’r llawenydd, y balchder a’r hwyl, wrth chwarae pêl rwyd, rownderi, hoci ac, yn fwy na dim i mi, pêl droed.

Roedd fy mhrofiad i o chwaraeon yn yr ysgol gynradd yn gadarnhaol drwyddo draw (ac nid mewn ysgolion gyda chyfleusterau gwych fel mae’n digwydd. Dyma ddyddiau’r unedau Cymraeg).

Ond yr hyn oedd gen i oedd athrawon rhyfeddol, un yn Nhrelales a oedd yn frwd iawn dros bêl rwyd. Roedd hi hefyd yn hyfforddwr clwb ac roedd yn ceisio denu’r plant i gyd, doedd dim ots am eu safon, ac roedd yn ein hyfforddi gydag angerdd ac ymrwymiad.  

Yn ddiweddarach, yn Ysgol Gyfun Bryntirion, roedd gennym ddwy chwaraewraig hoci ryngwladol yn athrawon ac (ar wahân i geisio fy narbwyllo i mai yn y byd hoci oedd fy nyfodol i mewn chwaraeon, ac nid pêl droed – ’chawson nhw ddim llawer o lwyddiant gyda hynny) roeddent yn dangos i’r disgyblion i gyd yr ysbryd cynhwysol sydd i’w gael mewn chwaraeon, a hefyd y pleser syml a’r boddhad, boed yn dda iawn neu’n ddifater. 

Gyda llaw, does neb yn 'wael' mewn chwaraeon yn fy marn i – mae camp neu weithgaredd yn bodoli i blesio pawb, ac mae llwyddiant yn dibynnu ar sut rydych yn ei fesur. Yn aml iawn, hwyl a mwynhad yw’r dull pwysicaf o fesur.

Mae fy mhrofiadau i, a’r hyn rydw i wedi’i weld ers hynny, yn tanlinellu mai chi – yr athrawon – yw’r dewiniaid yn y byd chwaraeon.

Rydych chi’n gwau eich hud yn yr ystafell ddosbarth, ar y maes chwarae ac ar y caeau, ac ‘abracadabra’ – os yw’n cael ei wneud yn iawn, rydych chi’n creu plentyn sydd wedi gwirioni ar chwaraeon am oes ...

Wrth gwrs, yr ochr arall i hynny yw y bydd perfformiwr llai hudolus yn gallu gwneud i blant droi eu cefn am byth, gyda’r bywyd a’r cyfleoedd rhagorol y gall chwaraeon eu cynnig yn cael eu cipio oddi arnyn nhw cyn iddyn nhw gael profi pleser a manteision bod yn heini ac yn egnïol.    
              
Gan fy mod i wedi cael fy annog i fod yn hyderus yn fy ngallu i chwarae, roeddwn i’n mwynhau. Gallu, hyder, mwynhad – rysait sy’n thema fawr yn ein hymchwil diweddar gyda phlant a phobl ifanc, a thema y byddaf yn dychwelyd ati yn nes ymlaen.
Oherwydd y gwir yw mai hon yw’r fformiwla syml sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o feysydd yn ein bywydau ni – rydyn ni’n hoffi’r pethau rydyn ni’n gallu eu gwneud ac yr ydyn ni’n teimlo’n hyderus yn eu gwneud. O ran y pethau sy’n dangos ein gwendidau, mae’r dewraf yn ein plith yn eu hwynebu er mwyn datblygu’r hunan ac i sicrhau twf personol – ond mae llawer ohonom yn troi ein cefn ac yn eu hystyried yn wrthun.

A beth am berthnasu’r ‘rysait’ hyder yma i blentyndod ac, yn fwy fyth, i fyd bregus a sensitif glaslencyndod.               

Roeddwn i’n blentyn hoff o chwaraeon gyda rhieni cefnogol a oedd wrth eu bodd gyda chwaraeon eu hunain. Nid yw pob plentyn yn y sefyllfa ffodus hon. Ond mae gan bob plentyn hawl i fwynhau chwaraeon a phrofi chwaraeon ac AG o safon uchel yn yr ysgol. Ni ddylid gadael i hyn ddigwydd ar hap. Mae gan bob un ohonom sy’n ymwneud â darparu chwaraeon a chyfleoedd addysgol ar gyfer ymarfer ddyletswydd i wneud yn siŵr bod POB plentyn yn cael y cyfleoedd gefais i.
Fe welwch chi fy mod i’n frwd o blaid iaith o’r math yma: ymarfer hawliau, dyletswyddau, cyfrifoldebau. Rydyn ni’n gwasanaethu pobl ifanc Cymru gan mai nhw yw ein dyfodol ni ac fe all y dyfodol fod yn lle gwahanol iawn iddyn nhw.

Fe dderbyniais i’r swydd hynod anrhydeddus hon (fel rydw i’n ei ddweud wrth fy nghydweithwyr yn Chwaraeon Cymru, ydych chi’n gallu meddwl am swydd well na hon? – chwaraeon, a hynny mewn gwlad ble mae chwaraeon yn rhan annatod o’n DNA ni – beth allai fod yn well?) oherwydd roeddwn i eisiau croesawu’r cyfrifoldeb hwnnw. Mae wedi golygu talu pris proffesiynol. Rydw i dal yn academydd ymchwil llawn amser ac rydw i’n gorfod ymdopi â gofynion amgylchedd Prifysgol a hefyd dyddiadur chwaraeon sy’n llawn, yn amrywiol ac yn heriol. Ond ’fyddwn i ddim yn newid hyn am y byd.        
   
Gadewch i mi gyfaddef rhywbeth. Mae fy ffocws i wedi newid yn llwyr - o chwaraeon ‘elitaidd’ i blant ac ysgolion. Pan ddois i i’r swydd hon, roeddwn i’n gyn-athletwraig ryngwladol. Yr ochr elitaidd oedd yn mynd â ’mryd i. Rydw i dal yn gyffrous ynghylch ein her i ennill mwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall yn y byd yn y Gemau Cymanwlad y flwyddyn nesaf yn Glasgow. Ond, mewn gwirionedd, yr etifeddiaeth rydw i eisiau ei gadael yn awr, ar ôl treulio cyfnod wrth y llyw, yw system o chwaraeon ysgol sydd wedi newid yn radical, ac un sy’n denu, yn ennyn diddordeb ac yn cynnwys pob plentyn.
Mae chwaraeon yn ymwneud â pherfformiad a phodiymau, ydi, ond mae’n ymwneud hefyd â sefyll ar bodiwm personol, nid dim ond y rhai arferol. Ac fe ddywedodd fy ffrind da, Tanni Grey-Thomson, rywbeth cofiadwy iawn unwaith wrth i ni drafod yr etifeddiaeth Olympaidd a Pharalympaidd: beth rydyn ni ei angen yw mwy o bobl sy’n dda i ddim mewn chwaraeon! Dweud doniol, ond rydw i’n cytuno’n llwyr â Tanni...

Mae Tanni yn un o ferched Cymru sydd wedi bod yn ddigon dewr i fynegi ei barn yn glir ac sy’n dal i arwain drwy esiampl ac ysbrydoliaeth. Mae arnon ni angen mwy o bobl fel Tanni i ddod yn arweinwyr Cymru’r genhedlaeth nesaf. Bydd mwy o ferched yn cynnig profiadau bywyd amrywiol a rhinweddau personol gwahanol, fel hunanymwybyddiaeth a deallusrwydd emosiynol.
Er gwaethaf ambell ddatblygiad arloesol, fel y cydbwysedd rhwng y rhywiau a welwyd yn y Cynulliad yn 2006, a sicrhaodd bod Cymru’n arweinydd byd o ran cydraddoldeb gwleidyddol, mae’r darlun presennol yn warthus. Mae merched yn cael eu tangynrychioli yn Senedd y DU – dim ond 20% o’r ASau yno sy’n ferched; dim ond 4% o reolwyr y 50 cwmni uchaf yng Nghymru sy’n ferched; ac er mai merched a welir fwyaf yn y proffesiwn addysgu (tri chwarter), dim ond 18% o athrawon prifysgol sy’n ferched.

Llai na chwarter ein cynghorwyr lleol sy’n ferched, dim ond 3 o ferched sy’n Brif Weithredwyr ar ein cyrff rheoli chwaraeon.

Mae’n rhaid i lais merched gael ei glywed ym mhob sector. Yn ein sector ni, rydw i’n ystyried yr her o gau’r bwlch rhwng cyfranogiad chwaraeon y merched a’r bechgyn fel un ddifrifol iawn. Pa mor hurt fyddai ceisio cau’r bwlch hwnnw heb unrhyw gyfraniad gan enethod a merched eu hunain?                                
Ac eto, dyna’r darlun trist mewn sawl rhan o fywyd cyhoeddus.

Mae ein hymchwil gyda genethod a merched ifanc wedi dangos gwir fwynhad o weithgarwch corfforol yn yr ysgol gynradd ond yna mae’n erydu’n raddol gydag amser. Dywedodd y rhan fwyaf o’r merched y buom yn siarad â hwy eu bod yn edifar am roi’r gorau i chwaraeon ac roeddent yn teimlo nad oeddent yn meddu ar y sgiliau i ddychwelyd, neu nad oeddent yn ddigon heini.
O sicrhau bod y ddarpariaeth mewn ysgolion yn addas, yn enwedig yn yr ysgolion uwchradd, mae hyn i gyd yn tanlinellu bod gennym ni wir gyfle i atal y dirywiad mewn cymryd rhan a chau’r bwlch rhwng y rhywiau.  

Ac mae hyder yn ffactor allweddol i enethod unwaith eto.

Rydyn ni ferched yn gyfarwydd iawn â phroblemau gyda hyder, oherwydd maent yn rhan annatod o’n gyrfaoedd drwy gydol ein hoes.

Faint o gydweithwyr a ffrindiau benywaidd talentog ydych chi’n eu hadnabod sydd heb ddigon o hunanhyder a hunan-gred i gynnig am swyddi? A hyd yn oed ar ôl cael swydd bwerus, pa mor aml ydyn ni wedi meddwl ‘ydw i ddigon da i hyn’?, ‘Pryd fydda’ i’n cael fy nal allan?!’

Wrth gwrs, mae sawl elfen yn rhan o hunanhyder a hunan-gred, ond mae’n anodd dadlau nad yw hyder corfforol yn un ohonynt. Mae bod â hyder yn ei chorff yn gallu cael effaith ddwys, ehangach ar ddyheadau merch ifanc, a fydd yn para am oes ac, rwy’n gobeithio, yn ehangu ei gorwelion ym mhob agwedd ar ei bywyd.        

Fel arweinwyr benywaidd, mae’n rhaid i ni fod o ddifrif am ein statws fel modelau rôl.

Mae arweiniad yn golygu bod yn ddidwyll, nid yn berffaith, a’r modelau rôl gorau yw’r rhai sy’n amherffaith, gyda’n holl ffaeleddau. I enethod, mae ein gweld ni – ferched cyffredin – mewn swyddi o awdurdod, yn arwyddocaol ynddo’i hun.

Does neb yn gwybod yr atebion i gyd a does dim posib i unrhyw un sbarduno newid ei hun. Ymdrech tîm yw hon ac mae’n rhaid i’r tîm hwnnw fod yn un amrywiol a blaengar. Ac er mwyn cyflawni’r amrywiaeth hwnnw, mae’n rhaid i ni chwalu’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar gyfranogiad cymunedau DLlE, a’u cynnwys. Yn union fel sawl maes arall yng Nghymru, mae’n rhaid i chwaraeon sicrhau’n barhaus ein bod yn adlewyrchu amrywiaeth cyfoethog ein cymdeithas, i ffrwyno a datblygu talent pawb.              

Rydw i’n credu’n angerddol mewn gwerth gwelliannau parhaus, sy’n cynnwys hunanddadansoddi a hunanfeirniadu cyson. 
           
Rydw i’n disgwyl i Chwaraeon Cymru herio hen ragdybiaethau ac arferion mewn  chwaraeon, heb dderbyn yr ail orau byth, a sbarduno dyheadau’r genedl, nid dim ond ar gyfer criw dethol, ond ar gyfer pob plentyn yng Nghymru.

Rydw i hefyd yn credu’n gryf ein bod ni’n gwella fel sefydliad ac yn sicrhau cynnydd drwy gydnabod ein gwendidau a thynnu sylw atynt. Trwy wneud hynny, rydym yn ysgwyddo cyfrifoldeb i newid. Dim ond y dechrau yw ein gwaith ni i foderneiddio a chreu amrywiaeth ym Mwrdd Chwaraeon Cymru. Mae’n rhaid i’n ffordd ni o feddwl fod fel yr athletwr a’r hyfforddwr – y ras, y gystadleuaeth, y gêm yn dod i ben pan chwythir y chwiban neu wrth groesi’r llinell derfyn. Wedyn mae’n ymwneud â mwy o ymarfer, mwy o her, yr ymdrech i wella, y gystadleuaeth nesaf a gosod y safon yn uwch fyth. 
                      
Rydw i’n falch o ble rydyn ni nawr ond rydw i eisiau i ni ddod yn batrwm o sefydliad sy’n llawn cymhelliant a dyhead ac, yn bwysicach na dim, yn llwyddo mewn ffordd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru. Mae gennym sawl uchelgais mawr a heriol, ond mae’n well gen i hynny na gosod y safon yn rhy isel a bodloni ar gyrraedd targedau sy’n cyflawni fawr ddim mwy na’u llwyddiant presennol. Dydi Cymru, yn sicr, ddim angen mwy o’r ‘status quo’.

Mae gan Chwaraeon Cymru ddau amcan: dim ond am ‘greu cenedl o bencampwyr’ fydd rhai yn meddwl – mai’r cyfan sy’n bwysig i ni yw chwaraeon perfformiad uchel ac ennill medalau.

Ond mae ein huchelgais yn ymwneud â chymaint mwy na hynny. Ein hail amcan, ‘cael pob plentyn wedi gwirioni ar chwaraeon’, yw’r un mwyaf allweddol. Drwy hau’r hadau yn yr ardd, fe fyddwn ni’n meithrin mwy o dalent i roi i’n cenedl fechan ymdeimlad gwell fyth o falchder chwaraeon ar y llwyfan rhyngwladol ond, yn bwysicach na hynny, bydd yn sbarduno cyfleoedd a dyheadau i bob plentyn ddod o hyd i’w bodiwm personol ei hun, boed yn y byd chwaraeon, yn y byd gwaith, neu mewn bywyd yn fwy cyffredinol.     

Wn i ddim amdanoch chi ond rydw i, yn un, wedi blino ar glywed am gyfyngiadau Cymru.
Rydyn ni’n "wlad dlawd ac afiach gyda phoblogaeth or-dew wedi’i haddysgu’n wael, heb sgiliau entrepreneuraidd a gyda sector preifat heb ei ddatblygu i’r eithaf."

O ddweud hynny ddigon, dyna fydd y disgwyliadau, yn enwedig ymhlith ein pobl ifanc.   
         
A beth bynnag, nid dyna beth rydw i’n ei weld. Rydw i’n gweld pobl greadigol, fentrus a chyfeillgar sy’n teimlo’n angerddol am ein cenedl hyfryd ni, ble mae ansawdd bywyd yn uchel, ein golygfeydd yn gwbl drawiadol ac agosrwydd yr arfordir yn hwylus i bawb bron. Mae gennym ni fyd celfyddydol sy’n destun eiddigedd i wledydd llawer mwy, rhai ysgolion, colegau a Phrifysgolion cwbl wych a rhai busnesau cyffrous a newydd wedi’u sefydlu a’u lleoli yng Nghymru.
Ychwanegwch at hynny draddodiad chwaraeon gwych, a fframwaith y llywodraeth ddatganoledig sydd â photensial i ddangos ein bod ni’n genedl fechan, glyfar a llwyddiannus sy’n rheoli ei thynged ei hun.           

Y cyfan fydd yn ein dal ni’n ôl fydd tlodi uchelgais oherwydd, waeth beth yw eich barn chi am y setliad datganoli sydd gennym ni yng Nghymru (ac mae fy safbwyntiau i wedi’u cofnodi’n eithaf da), mae gennym ni eisoes adnoddau i ddatblygu datrysiadau unigryw Gymreig.

Ac ni fydd hynny’n dilyn ymrwymiad rhyfedd Michael Gove, sy’n edrych am yn ôl, ar ffurf darpariaeth chwaraeon gystadleuol yn arddull yr ysgolion paratoi, ond, yn hytrach, persbectif Cymreig blaengar sy’n edrych ar brofiadau ein plant ni mewn ysgolion ac mewn chwaraeon mewn ffordd llawer mwy cynhwysol a chyfannol.

Beth bynnag, dyna ddigon am fy marn i, beth am y bobl sydd wir yn cyfrif...?

Rydw i’n meddwl bod gan rywun rywbeth i’w ddweud wrthyn ni:

Dyma’r fideo Llythrennedd Corfforol newydd yr ydym yn falch o fod yn ei lansio heno.
Mae mor bwysig ein bod ni’n gwrando ar lais pobl ifanc. Nid ni sy’n dweud wrthych chi mai ysgolion yw’r safle allweddol ar gyfer gwella sgiliau chwaraeon a iechyd ein cenedl.      
          
Byddaf yn cyfeirio’n aml at lais pobl ifanc heno. Rydw i’n sicr bod rhaid i ni ddeall eu hanghenion nhw er mwyn eu gwasanaethu’n well, gan mai nhw yw ein meistri. Byddwch yn clywed cyfeiriadau rheolaidd at Lysgenhadon Ifanc, sy’n mynd ati i hybu a threfnu gweithgarwch corfforol mewn ysgolion ac yn cynrychioli eu cyfoedion. Byddwch hefyd yn clywed am Arolwg Chwaraeon Cymru ar Chwaraeon Ysgol.

Yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, y rhyddhawyd ei ganlyniadau ryw ddeng niwrnod yn ôl, oedd yr arolwg mwyaf o’i fath yn y byd.              

Lleisiodd bron i 40% o’n pobl ifanc eu barn. Mae graddfa aruthrol yr Arolwg hwn yn anhygoel - 110,000 o blant, mwy na 1,000 o athrawon a mwy na 900 o ysgolion wedi ymateb.
Rydw i’n gobeithio bod hyn yn dangos ein hymrwymiad ni i wrando yn hytrach na phregethu. Mae’r darganfyddiadau wedi rhoi data hynod gyfoethog i ni – gwybodaeth leol a chenedlaethol fanwl a fforensig am agweddau pobl ifanc tuag at AG a chwaraeon. 

Ond casglu’r wybodaeth yw’r rhan hawdd. Ein dyletswydd ni yn awr yw gwrando ar y safbwyntiau hyn.

Pwrpas y fideo rydyn ni newydd ei gweld yw helpu i egluro a symleiddio i’r proffesiwn dysgu, rhieni, hyfforddwyr chwaraeon, pawb, beth yw ystyr y term ‘Llythrennedd Corfforol’.  

Ceir llawer o gamsyniadau ac, felly, rhywfaint o amharodrwydd dealladwy i groesawu’n llawn y cysyniad o Lythrennedd Corfforol. Ond eto, o’i egluro’n syml, mae mor amlwg.      
                  
Mae Llythrennedd Corfforol yn ymwneud â chymell plant a gwneud iddynt fwynhau a theimlo’n fedrus a hyderus i ddeall sut mae defnyddio eu corff. Mae’n troi o amgylch y plentyn ac yn unol â’n dull ni yng Nghymru o addysgu plant i’r eithaf mewn ffordd fwy cyfannol, ac fel mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol wedi dangos yn glir – mae’n ddull llwyddiannus iawn o weithio.       

Mae Llythrennedd Corfforol, fel llythrennedd, yn siwrnai drwy blentyndod. Yn lle dysgu sgiliau gramadeg a darllen sylfaenol, sydd wedyn yn galluogi i blant ddarllen llyfrau a safleoedd o’u dewis, rydyn ni’n dysgu sgiliau dal, neidio a chydsymudiad sylfaenol er mwyn meithrin hyder a dyhead pob plentyn i gymryd rhan yn y gamp neu’r gweithgaredd corfforol o’i ddewis. Mae’n ymwneud â gwneud y profiad cyfan yn un pleserus, fel bod pob plentyn yn dod o hyd i’w lefel ei hun o fedrusrwydd a hyder.  Darparu llwybrau o’r ysgol i’r gymuned chwaraeon ehangach, boed er mwyn chwarae am hwyl gyda ffrindiau neu ddatblygu talent i safon Olympaidd.          

Mae gen i bump cynnig yr wyf yn bwriadu eu cyflwyno i’r gynulleidfa anrhydeddus hon:       
1.            mae arferion iach a ddysgir o oedran ifanc yn para am oes (gwirioni ar chwaraeon);
2.            yr ysgol yw’r lleoliad ar gyfer yr ymyriadau pwysicaf i bob plentyn (cynulleidfa barod / dull ysgol gyfan o weithio);
3.            mae’n rhaid i Addysg Gorfforol fod yn brofiad pleserus ac o safon uchel i’r plant i gyd drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol (AG fel pwnc craidd);
4.            mae chwaraeon i bawb ohonom drwy gydol ein hoes, ar gyfer y talentog ac am hwyl, ar y cae chwarae ac ar y podiwm;
5.            mae chwaraeon yn adnodd hynod bwerus ar gyfer iechyd ond nid yw’n cael ei ddefnyddio’n llawn ar hyn o bryd

Gadewch i mi ystyried y ddau gynnig cyntaf gyda’i gilydd:
Mae Chwaraeon Cymru, fel sefydliad, yn cael ei sbarduno gan y dyhead i newid diwylliant. Mae un plentyn segur a gor-dew yn un yn ormod. Mae grym chwaraeon yn deillio o’u hapêl a’u cyrhaeddiad. Mae gan blant fodelau rôl mwy cadarnhaol mewn chwaraeon nag mewn unrhyw sector arall - Gareth Bale, Becky James, Jade Jones, Leigh Halfpenny.

Dyma fodelau rôl priodol, sy’n gwerthu neges briodol - a dangos ei bod yn cŵl bod yn heini ac yn iach.           

Ond bydd rhaid wrth fwy na modelau rôl. Mae graddfa’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu’n golygu bod popeth rydyn ni’n ei wneud yn awr yn gorfod ymwneud ag ymyriadau cadarnhaol.
Does dim pwrpas mewn rhoi sylw i ddim ond symptomau problem sy’n mynd yn llawer dyfnach. Mae angen ymosod ar yr achos, y gwraidd. Gall ymyriadau o ran deiet a gordewdra, a chodi prisiau bwyd cyflym a diodydd melys, fod yn ddefnyddiol ond dim ond os ydyn ni’n rhoi sylw i hyn gyda’n gilydd i gyd, ar yr un pryd.

Mae’n rhaid gweithredu fel ‘Tîm Cymru’ er mwyn creu newid mawr, yn union fel y byddwn ni’n gweithredu y flwyddyn nesaf yn y Gemau Cymanwlad yn Glasgow wrth i ni geisio cyrraedd y targed uchelgeisiol hwnnw ar gyfer ennill medalau. Gyda llaw, rydyn ni eisoes yn rhagori ar berfformiad ein cymdogion ledled y DU yn y cyswllt hwn, felly dyma uchelgais arall ar gyfer codi’r safon.         
                
Rydyn ni’n gwybod nad oes posib i rieni a theuluoedd roi sylw i lefelau gweithgarwch ar eu pen eu hunain. Mae angen cydweithio rhwng y sector addysg, rhieni a phartneriaid (yn arbennig y bobl ifanc hynny o gymunedau difreintiedig, ble mae disgwyliad oes a chyfraddau cymryd rhan mewn AG ar eu hisaf).

Beth am ddychwelyd at ddatganiad brwd Amelia fach yn y fideo.

Mae ysgolion yn cynnig ‘cynulleidfa barod’ ac rydyn ni’n gwybod bod plant yn fodlon rhoi cynnig ar unrhyw beth pan yn ifanc, ond maen nhw’n fwy gofalus ac yn teimlo cywilydd ac yn ofni methiant wrth iddynt dyfu’n hŷn. Mae hyn yn golygu ei bod yn fwy allweddol fyth datblygu eu medrusrwydd a’u hyder pan yn ifanc.

Yn fwy na hynny, efallai mai pan maen nhw y tu mewn i giatiau’r ysgol y mae’r bobl ifanc o’r ardaloedd tlotaf yng Nghymru’n cael eu cyfleoedd gorau.            
                                                          
Dyna pam ei bod yn hollbwysig bod pob ysgol yn cynnig i’w disgyblion ddarpariaeth chwaraeon atyniadol a phleserus. Rydw i’n hynod falch bod dwy allan o’r deg ysgol uchaf yn ein harolwg a oedd wedi ‘gwirioni ar chwaraeon’ yn ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig – mae hynny’n awgrymu mai nid dim ond arian a manteision sy’n bwysig bob amser, ond yn bennaf, ymrwymiad ac ethos yr ysgol.     
                          
Mae ymrwymiad yn allweddol. Dywedodd ein Llysgenhadon Ifanc wrthyf i’n ddiweddar nad oedd y rhan fwyaf o ferched yn cymryd rhan yn yr ysgol am fod yr ysgol yn mynnu eu bod yn gwisgo cit chwaraeon a oedd yn gwneud i’r merched ifanc deimlo’n hunanymwybodol iawn. Un penderfyniad gwael – cannoedd o ferched yn troi eu cefn ar weithgarwch corfforol.  

A dydw i – ac rydych chi’n disgwyl i mi ddweud hyn – ddim yn derbyn mai byd i’w ddiogelu i fechgyn a dynion yw chwaraeon.

Mae cael mwy o ferched – a bechgyn – i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn dechrau yn yr ysgol. Hefyd, datgelodd yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol gyfraddau cymryd rhan is mewn chwaraeon ymhlith plant o gymunedau DLlE. Rydw i’n amau bod problemau diwylliannol syml tebyg yn bodoli a’r cyfan sydd ei angen yw clust sensitif i wrando er mwyn eu datrys. Dyma rywbeth y bydd Chwaraeon Cymru yn rhoi sylw manwl iddo gydag ysgolion a phartneriaid eraill yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Y rheswm dros hyn yw am nad yw pobl ifanc yn grŵp homogenaidd. Os ydyn ni am sicrhau bod pob person ifanc yn cael profiadau rheolaidd a chadarnhaol o AG a chwaraeon, yna mae’n rhaid i ni ddeall yn well y gwahaniaethau rhwng pobl ifanc a’u cymhelliant amrywiol …

Mae hyn yn golygu gweithredu gan roi lle canolog i’r person ifanc. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn datblygu adnodd a fydd yn galluogi ysgolion i wella proffil eu poblogaeth o ddisgyblion, yn seiliedig ar eu hymddygiad chwaraeon. Gall ysgolion a Llysgenhadon Ifanc ddefnyddio’r wybodaeth hon i weithio ar dargedu gyda disgyblion, gyda’r bwriad o sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n bleserus iddynt. Os ydynt yn eu mwynhau, yna byddant yn gwirioni! 

Os ydynt wedi ‘gwirioni’, yna gallwn ddal ati i feithrin eu diddordeb a’u datblygiad drwy goleg a phrifysgol, ble mae cymaint o waith da’n cael ei wneud i sicrhau mwy o gyfranogiad. Fe roddais i sylw i Colegau Cymru y llynedd gyda’r pwynt hwn, oherwydd mae’n gam ymhellach at drosi cyfraddau cymryd rhan plant mewn gweithgarwch corfforol i’w cyfnod fel oedolion.

Er ein bod yn gwybod bod pobl ifanc 195% - canran gwbl anhygoel - yn fwy tebygol o fod wedi gwirioni ar chwaraeon (cymryd rhan 3 gwaith yr wythnos o leiaf mewn chwaraeon allgyrsiol neu gymunedol) os ydynt yn mwynhau chwaraeon yn yr ysgol, maent 58% yn fwy tebygol o fod wedi gwirioni ar chwaraeon os ydynt yn hyderus iawn i roi cynnig ar weithgareddau newydd heb boeni. Mae gallu yn allweddol – Gallu, Hyder a Mwynhad sy’n hollbwysig.    
                                                
Dylai pob gwers AG unigol, pob cyfle chwaraeon, roi grym i’n pobl ifanc ni. Mae’n rhaid iddyn nhw allu cymryd rhan. Dylent deimlo eu bod yn cael eu cymell i ddod yn ôl am fwy. Maent yn dweud wrthym eu bod eisiau rhagor o gyfleoedd i fod yn egnïol – rydyn ni i gyd yn gwybod nad yw plant tair oed yn llonydd yn hir iawn! Mae’r rhan fwyaf o blant bach yn cyrraedd yr ysgol yn mwynhau chwaraeon a bod yn egnïol, ond eto, erbyn iddyn nhw adael yr ysgol uwchradd, nid yw dwy ran o dair ohonynt yn ei fwynhau mwyach.        

Felly beth gallwn ni ei gasglu o hyn? Mae’n ymddangos bod ysgolion yn gwneud i rai o’n pobl ifanc ni droi eu cefn ar fod yn egnïol yn gorfforol? Rydw i’n siŵr ein bod ni’n unfrydol bod hwn yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni i gyd weithio arno er mwyn ei newid.

Yr her yw ffrwyno hyn ar gyfer ein plant i gyd am weddill eu bywydau. Mae’r dull hwn o weithio wedi cael ei annog drwy ein cynlluniau Chwarae i Ddysgu ac Aml-Sgiliau’r Ddraig, ble rydym yn canolbwyntio ar gryfderau plant, yn eu hannog i chwarae ac i ddysgu sgiliau newydd – dull priodol o weithredu sy’n troi o amgylch y plentyn.

Mae rhaglen Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Cafodd y rhaglen ei chynllunio’n wreiddiol er mwyn gwella hyder a medrusrwydd athrawon cynradd i gyflwyno AG a nawr mae’n herio’r arferion sydd wedi dyddio o ddysgu chwaraeon cystadleuol, oedd i’w gweld yn aml iawn mewn ysgolion uwchradd.                                           
Mae Estyn wedi canmol y rhaglen yn fawr a gwelir ei llwyddiant mewn gwell cyraeddiadau yng Nghyfnod Allweddol 3.

Yng nghanlyniadau diweddar yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, datgelwyd bod cyfranogiad uwch y disgyblion a lefelau uwch o fwynhad yn eu plith yn arwydd o lwyddiant y cynllun Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol. Unwaith eto, y canlyniad yw dull o weithredu sy’n troi o amgylch y plentyn (neu o dan arweiniad y cwsmer) mewn perthynas â Llythrennedd Corfforol, yn hytrach na dim ond addysgu chwaraeon.

Fodd bynnag, mae cyllid y cynllun Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol yn dod i ben y flwyddyn nesaf.  

Wrth i ni ddatblygu fframwaith Llythrennedd Corfforol ehangach, i sefyll ochr yn ochr â’r fframweithiau Rhifedd a Llythrennedd, y materion allweddol yw atebolrwydd a mesur. Nid oes neb yn gyfrifol ar hyn o bryd am lefelau gweithgarwch corfforol eu myfyrwyr. Gyda statws cyfartal, ac yn cael eu hasesu gan Estyn, gallem sicrhau bod rhaid i bob pennaeth ddatblygu cynlluniau i gyrraedd safonau’r ysgolion sy’n perfformio orau.                    

3. Pwyntiau allweddol argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Farwnes Tanni Grey Thomson:
Yn gryno.

Wrth edrych ar AG a chwaraeon mewn ysgolion, down ar draws sawl llwybr ansensitif...
Sut ar wyneb daear mae’n dderbyniol chwerthin ar brofiadau gwael mewn AG a chwaraeon ysgol fel rhan o dapestri cyfoethog bywyd?

Un peth yw sôn am ein profiadau hanesyddol o AG – rydyn ni i gyd wedi clywed am athrawon AG ‘creulon’ yn gorfodi plant i redeg traws gwlad yn y glaw, neu’n gadael i’r plant ‘llai hoff o chwaraeon’ gael eu dewis yn olaf ar gyfer y tîm dethol?             
Ond arhoswch funud ...
’Fydden ni’n gadael i anghydraddoldeb mor amlwg a diurddas ddigwydd mewn gwersi eraill yn yr ysgol?

Wrth lwc, mae pethau’n newid, a cheir enghreifftiau disglair o arferion rhagorol mewn ysgolion, ond ein dyletswydd ni yw gwneud yn siŵr bod yr arferion da’n gyson ac yn digwydd ym mhob man, nid dim ond ar sail mympwy, gadarnhaol wrth gwrs, pennaeth hynod frwdfrydig. Byddai integreiddio Llythrennedd Corfforol yn y gwaith o hyfforddi athrawon newydd yn darparu sgiliau i wella eu hyder ar gyfer denu ac ennyn brwdfrydedd mewn myfyrwyr ar draws y pynciau i gyd.

Mae’n werth ein hatgoffa ein hunain bod Llythrennedd Corfforol yn ymwneud â chyfleoedd bywyd. Nid yw person ifanc sy’n gadael yr ysgol yn methu darllen neu’n methu ysgrifennu yn destun chwerthin. Na chwaith plentyn heb ei baratoi’n briodol i fyw bywyd egnïol ac iach. Yr unig ddagrau ddylid eu colli dros yr hen straeon am hunllefau AG yw dagrau tristwch ...         
                        
Mae ein Llywodraeth ni wedi gosod her allweddol a beiddgar i ni. Mae’r Rhaglen Lywodraethu’n datgan bod Llythrennedd Corfforol mor bwysig â darllen ac ysgrifennu. Dyna oedd ein her ni yng ngrŵp Tanni – trosi’r gred honno’n realiti.          
        
Ar ôl derbyn tystiolaeth fanwl gan arbenigwyr amrywiol, roedd y grŵp yn unfrydol y dylid galw am bennu AG fel pwnc craidd yn y cwricwlwm, ochr yn ochr â Chymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Gadewch i mi fod yn glir, nid mwy o amser mae hyn yn ei olygu. Nid swmp sy’n bwysig, ond sylwedd, a statws ac ansawdd.       
 
Felly pam penderfynu ar ddim ond un argymhelliad?
Oherwydd y cyfan fyddai unrhyw beth llai radical yn ei wneud fyddai rhoi sylw i’r symptomau.
Y ffordd fwyaf effeithiol o gyflwyno’r argymhelliad hwn yw rhoi’r un statws i Lythrennedd Corfforol â rhifedd a llythrennedd, fel bod pob pennaeth yn gwybod bod Estyn yn mynd i asesu perfformiad ei ysgol. Byddai hyn yn golygu herio ysgolion os, er enghraifft, mai dim ond 10% o’u disgyblion sy’n egnïol yn rheolaidd, pan mae ysgolion eraill tebyg yn sicrhau cyfraddau cymryd rhan o 80%. Er bod darparu AG yn ddyletswydd statudol, nid yw’n orfodol, ac mae’r Arolwg yn dangos nad yw’r amser a neilltuir ar gyfer AG yn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o sicrhau bod y disgyblion i gyd yn cael 120 munud o AG yr wythnos. 

Rydyn ni wedi gwrando ar y proffesiwn hefyd: mae 87% o athrawon yn teimlo y dylid rhoi mwy o amser i AG yn eu hysgol a dywedodd 60% y dylid rhoi mwy o amser i chwaraeon allgyrsiol. Roedd 58% yn teimlo bod eu hysgol yn ystyried Llythrennedd Corfforol yr un mor bwysig â rhifedd a llythrennedd, ac roedd 31% yn teimlo nad oedd eu hysgol yn ei ystyried mor bwysig.  

Mae pobl ifanc yn gwybod beth yw’r problemau ac yn gallu eu mynegi’n syml a gonest. Dewch draw i gynhadledd y Llysgenhadon Ifanc ddydd Mercher yma. Dyma’r bedwaredd cynhadledd flynyddol ac mae’n ddigwyddiad sy’n tyfu yn ei boblogrwydd. Mae’r ffaith bod y Gweinidog Chwaraeon, John Griffiths, yn annerch ynddi y tro hwn yn dangos pa mor bwysig ydyw. 

Nid yw ein 4000 o Lysgenhadon Ifanc yng Nghymru (y rhan fwyaf gweithredol o’r cynllun yn unrhyw le yn y DU) yn dal yn ôl o gwbl wrth fy herio i yn fy rôl.          

Fy her i i chi, waeth beth yw eich rôl mewn addysg neu chwaraeon, ydi: ‘ydych chi’n manteisio i’r eithaf ar y bobl ifanc fedrus, blaengar a llawn cymhelliant yma?’
Oherwydd yn ddiamheuol, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn rhan o’r datrysiad.

Felly, nawr bod ein pobl ifanc ni wedi siarad, maen nhw wedi dweud wrthym ni mai dyma beth maen nhw ei eisiau:                                 
AG a chwaraeon sy’n bleserus, ble gallant ddatblygu eu hyder a’u gallu, ble mae pobl ifanc wrth galon chwaraeon ysgol a’r ysgol wrth galon y ddarpariaeth gymunedol.                                     

4: Mae ein cysylltiadau â’r sector iechyd yn anaeddfed ar hyn o bryd a heb eu datblygu ddigon. Wedi dweud hynny, rydw i’n hynod falch fy mod i wedi cael cyfarfodydd cynhyrchiol iawn gyda’n Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, sy’n frwd iawn dros   chwaraeon ei hun, ac fy mod yn aelod o’i grŵp cydweinidogol o arbenigwyr ar weithgarwch corfforol.          

Ond mae’n rhaid i ni weithredu ar frys rhag colli’r cyfleoedd unigryw hyn. Mae anweithgarwch corfforol yn cael ei gydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd a Phrif Swyddogion Meddygol y DU fel un o brif achosion marwolaethau cyn eu hamser a salwch difrifol – felly, mae cynyddu gweithgarwch corfforol yn allweddol er mwyn newid y tueddiadau cyfredol o salwch. Eu dal nhw’n ifanc yw’r allwedd …

Mae’r Gweinidog, y Prif Swyddog Meddygol a Chyfarwyddwr newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyd yn cydnabod y manteision cymdeithasol ac unigol aruthrol i blant o roi statws priodol i AG mewn ysgolion ac o godi safonau yn y pwnc. Mae’n llawer haws datblygu arferion da ymhlith ein pobl ifanc, yn hytrach nag aros nes eu bod yn oedolion i newid eu ffordd o fyw, ac nid yw’n costio dim i bwrs y wlad.      
         
Mae’r cynnydd o 50% yn amledd y cymryd rhan mewn chwaraeon ymhlith plant yn gynnydd y dylem fod yn falch iawn ohono.

Ond dychmygwch pe bai modd perthnasu’r cynnydd hwn i fyd oedolion; byddai’n gam enfawr tuag at greu cenedl iachach ac yn newid bywydau.            
  
Dydw i ddim yn gallu gweld unrhyw bwnc arall ar y cwricwlwm fyddai’n gallu creu’r newid mawr yn iechyd y genedl yr ydyn ni i gyd eisiau ei weld.

Mae pob athletwr yn dod o rywle ac mae llawer o’n prif athletwyr ni’n dweud, fel y dywedais i’n gynharach, bod yr ysgol wedi chwarae rhan gwbl allweddol mewn tanio eu hangerdd dros chwaraeon. Gwrandewch ar yr hyn sydd gan Rhys Williams, ein neidiwr clwydi 400m Olympaidd, i’w ddweud yma:

Dydyn ni ddim yn gallu fforddio gwastraffu’r ysbrydoliaeth yma (ac mae hynny’n golygu ysbrydoliaeth gan athrawon ac athletwyr) os ydyn ni am barhau i herio am fri rhyngwladol yn y campau i gyd. Mae pob medal a enillir yn dwyn cyfrifoldeb am y genhedlaeth nesaf sy’n gwylio yn y standiau. Os yw plentyn sy’n dod o Gas-gwent neu o Gaernarfon, o Bwllheli neu o Bontardawe, yn gweld Rhys neu Dai Greene, neu Becky James neu Aled Sion Davies, ac yn meddwl, rydw i eisiau rhoi cynnig ar hyn’na, mae gennym ni ddyletswydd i sicrhau bod y cyfle’n bodoli iddo roi cynnig ar y gamp ac yna datblygu ei allu. Ni ddylem fyth anghofio’r brwdfrydedd diniwed sydd gan blant i’w gynnig i chwaraeon. Mae’n rhywbeth y gallwn ni i gyd ddysgu oddi wrtho a dylem adael ein sinigiaeth wrth giât yr ysgol.

Roedd amheuaeth fawr ynghylch y term “etifeddiaeth” Olympaidd ond rydw i’n gwybod, o’r hyn rydw i wedi’i weld ar hyd a lled Cymru, bod plant a phobl ifanc wedi cael eu hysbrydoli’n fawr gan yr hyn a welsant. Doedden nhw ddim yn meddwl, “Dydi hyn ddim i mi”, dim ond “Oes posib i mi roi cynnig arni?”. Mae hefyd wedi bod yn rhyfeddol sut mae plant wedi croesawu a mwynhau cymryd rhan mewn digwyddiadau Paralympaidd. Mae enillwyr medalau aur Cymru, Aled Sion Davies, Josie Pearson a Mark Colbourne, wedi dweud wrthyf i am eu syndod a’u pleser yn ymweld ag ysgolion ble mae chwaraeon anabledd yn ddarpariaeth ‘brif ffrwd’. Yng Nghymru, gallwn ymfalchïo yn y ffordd rydym wedi buddsoddi yn nhwf chwaraeon anabledd a’u cefnogi. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cael ei ystyried fel arweinydd byd yn awr o ran sut mae’n denu ac yn ennyn brwdfrydedd ymhlith pobl anabl yn y gymuned, yn ogystal â datblygu talent ar gyfer podiwm y Gemau Paralympaidd.

Yn eistedd mewn ystafelloedd dosbarth yr wythnos hon mae sêr chwaraeon y dyfodol. Bydd gan rai ohonyn nhw, wrth reswm, dalent naturiol, bydd eraill eisiau help a hyfforddiant er mwyn cyflawni eu potensial. Mae’n syniad cyffrous a difyr iawn yn tydi ein bod ni i gyd yn annog y Sam Warburton, yr Elinor Barker neu’r Jazz Carlin nesaf? Mae llwyddiant rhyngwladol yn wych ac yn allweddol ond, unwaith eto, cael pob plentyn i gyrraedd ei bodiwm personol ef neu hi sy’n bwysig yn y fan yma.

Yn y pen draw, wrth gwrs, bydd y broses o greu newid yn ddewis gwleidyddol ac rydym yn gobeithio y bydd ein harweinwyr yn Llywodraeth Cymru yn gweithredu darganfyddiadau adroddiad arloesol Tanni ac yn gweithredu ar lais y bobl ifanc sydd wedi mynegi eu barn yn ein harolwg ni.                  
Ond mae consensws yn awr siawns ymhlith arbenigwyr ac ymarferwyr mai AG o safon uchel yw’r garreg sylfaen allweddol ar gyfer poblogaeth iachach a phoblogaeth sy’n fwy heini, yn fwy egnïol ac yn fwy llythrennog yn gorfforol.

I’r rhai sy’n amau argymhelliad Tanni, fe fyddwn i’n dweud: os oes gennych chi syniadau gwell, fe fyddwn i, yn un, yn hoffi eu clywed.     
A gadewch i mi ddweud hyn:
·                         NID cynnwys un pwnc arall mewn cwricwlwm craidd sydd eisoes yn llawn yw hyn; NID yw’n agor Bocs Pandora. Mae hyn yn ymwneud â chodi proffil a statws AG a gwella ansawdd y pwnc;
·                         Dyma egwyddor sylfaenol am ddatblygiad cyfannol iechyd a lles deallusol; rydyn ni’n byw mewn oes ble mae pobl ifanc yn wynebu dyfodol o fod yn llai heini / yn salach / byw oes fyrrach na’u rhieni eu hunain. Siawns y medrwn ni wneud rhywbeth?
·                         Nid dim ond mater addysgol ac academaidd yw hwn, mae’n ymwneud â hawl sylfaenol ein plant ni.      
·          
Mae llythrennedd corfforol yn cynnig budd arwyddocaol ac eang i blant, a phan maent wedi tyfu i fod yn oedolion. Mae’n cefnogi’r ffordd y mae pynciau eraill yn cael eu dysgu a’u cyflwyno. Mae hefyd yn greiddiol mewn datblygu sgiliau bywyd allweddol sy’n hanfodol yn y gweithle, a phan mae pobl ifanc yn ymwneud â chyflwyno cyfleoedd eu hunain, ac yn cael profiad gwaith perthnasol a gwerthfawr.

Mae wir wedi bod yn fraint cyflwyno’r ddarlith hon heno. Wrth i mi edrych o amgylch yr ystafell hon sy’n llawn gweithwyr proffesiynol ymroddedig, rydw i’n gwybod bod pob un ohonoch chi sydd yma wedi ymrwymo’n bersonol ac yn broffesiynol i ddyfodol ein plant ni ac i ddyfodol Cymru. 

65 mlynedd yn ôl (mae’r GIG yn bensiynwyr o’r diwedd!), roedd gan un Cymro, Aneurin Bevan, weledigaeth, angerdd ac ymrwymiad i wella iechyd pob dinesydd yn ein gwlad ni. Fe weddnewidiodd ei weledigaeth e ein cymdeithas ni, gan ddarparu cyfleoedd a dyheadau bywyd i sbarduno datblygiad a chynnydd unigol.             
       
Newid enfawr yr ydym yn hynod ddyledus iddo amdano.          

Ond cofiwch am y gwirionedd dychrynllyd hwn, sef bod ein plant ni’n wynebu oes o iechyd o safon is a disgwyliad oes byrrach na’u rhieni. Ond eto, o fewn ein cyrraedd ni, heb unrhyw gost ychwanegol a ’fawr ddim anghyfleustra, gallwn adeiladu ar draddodiad Nye Bevan yng Nghymru. 

Dydyn ni ddim yn gallu fforddio methu ein plant. Wrth eu paratoi ar gyfer eu hoes waith fel oedolion, sy’n dod yn fwy a mwy segur bob blwyddyn, mae’n rhaid i ni eu paratoi’n academaidd ac mae’n rhaid i ni hefyd eu paratoi’n gorfforol. Oes yna unrhyw un yma heno sy’n gallu dweud bod gennym ni ddewis?

Nid dim ond chwaraeon ar eu pen eu hunain ddylai hyrwyddo eu manteision gwych ac amrywiol. Wrth gloi, fe hoffwn i ddychwelyd at y pwyntiau am ddyletswydd a chyfrifoldeb y cyfeiriais i atyn nhw ar ddechrau fy anerchiad.

Rydw i’n gwbl glir ei bod yn ddyletswydd arna i i hyrwyddo’r weledigaeth yma ar lefel lywodraethol a byddaf yn gwneud fy ngorau glas er mwyn ceisio gwireddu’r freuddwyd hon. Fodd bynnag, y gwir ydi ei bod hi’n ddyletswydd arnon ni i gyd i gyflawni’r uchelgeisiau heriol hyn.         

Chi yw’r ymarferwyr, eich proffesiwn chi yw hwn: ac mae gennch chi bŵer i ddylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd yn eich ysgolion, eich colegau a’ch prifysgolion.

Hefyd, ar y dechrau, fe ofynnais i: ‘pwy sydd eisiau bod yn normal’?

Mae gen i gais: beth am beidio â gwneud y pethau ‘normal’ a chadw at arferion sydd heb weithio. Bydd rhaid i ni adeiladu ar yr arferion gwych sy’n bodoli eisoes mewn AG a chwaraeon ac yna ehangu’r rhain i gynnwys pob ysgol a phob cymuned yng Nghymru.

Gyda’n gilydd, yn ysbryd chwaraeon Tîm Cymru, fe allwn ni weithredu er mwyn newid bywydau ein pobl ifanc ac, yn sgil hynny, dyfodol ein cenedl fechan.       

Cofiwch, mae chwaraeon yn ymyriad polisi cost-effeithiol a hynod bwerus sy’n gallu newid bywydau. Mae gwerth a dylanwad chwaraeon yn gyfrinach sydd wedi’i chadw’n hurt o dda, ac rydw i’n teimlo ei bod hi’n amser gadael i’r genie pwerus yma ddod allan o’r botel.

0 comments:

Post a Comment