Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Pam na all chwaraeon aros ar y llinell ochr mwyach
Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Pam na all chwaraeon aros ar y llinell ochr mwyach
Cynhadledd Conffederasiwn y GIG yng Nghymru 16eg Ionawr 2014
Bu ein Prif Weithredwr, Sarah Powell, yn siarad yr wythnos ddiwethaf yng nghynhadledd Conffederasiwn y GIG yng Nghymru am chwaraeon ac iechyd yn cydweithio i sicrhau cenedl iachach - dyma ei haraith yn llawn:
Rydw i’n credu ei bod yn briodol iawn dechrau drwy gydnabod y gwaith y mae 4000 o Lysgenhadon Ifanc eraill yn ei wneud ledled Cymru. Dydyn nhw byth yn methu o ran fy ysbrydoli i gyda’u creadigrwydd a’u hegni a does gen i ddim amheuaeth y byddwn ni’n gweld mwy ohonyn nhw’n arwain ein gweithlu yn y dyfodol. Dyma bobl ifanc sy’n cymryd cyfrifoldeb personol am eu hiechyd eu hunain a lles eu ffrindiau a’u teuluoedd. Diolchaf iddyn nhw am y gwaith maen nhw’n ei wneud i greu cyfleoedd hwyliog a hwylus i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ledled Cymru.
Mae cynnwys plant a phobl ifanc yn ein gwaith ni yn un ffordd y mae Chwaraeon Cymru yn ceisio creu newid mawr yn lefelau’r cymryd rhan yng Nghymru. Mae ffurfio partneriaethau newydd, yn seiliedig ar ganlyniadau ar y cyd a negeseuon cyffredin, yn flaenoriaeth bwysig wrth i gyllidebau ostwng ac wrth i ni orfod gwneud arbedion. Mae’n rhaid i ni i gyd wynebu’r her i’n hagenda ni o gyflawni gwell canlyniadau gyda llai o adnoddau. Nawr yn fwy nag erioed mae’n rhaid i ni beidio â chladdu ein pen yn y tywod, ond manteisio ar y cyfle i wneud pethau’n wahanol a chwilio am atebion blaengar i bob her.
Mae’r problemau iechyd sy’n wynebu Cymru wedi’u cofnodi’n helaeth, yn enwedig o ran salwch y gellir ei atal. Mae’n dod yn fwyfwy clir mai un o’r bygythiadau mwyaf i iechyd y cyhoedd yw diffyg gweithgarwch corfforol. Rydw i’n credu mai’r ateb o ran gwella salwch y mae posib ei atal yw gwell cydweithredu ar draws y sectorau, ac yn enwedig rhwng Chwaraeon, Iechyd ac Addysg.
Nod Chwaraeon Cymru yw cynyddu’r cymryd rhan mewn chwaraeon i bawb, ond rydym wedi rhoi blaenoriaeth i waith gyda Phobl Ifanc ac wedi datgan dyhead i gael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes. Rydym wedi canolbwyntio ar yr ifanc er mwyn sicrhau eu bod yn datblygu arferion da ac agwedd gadarnhaol at chwaraeon yn eu blynyddoedd ffurfiannol, gan wybod os gallwn ni feithrin arferion ac ymddygiad cadarnhaol ymhlith pobl ifanc, eu bod yn fwy tebygol o barhau i gadw’n heini ac yn egnïol yn nes ymlaen yn eu bywyd. Wrth i ni gyflawni hyn, fe allech chi ein galw ni’n asiantaeth iechyd y cyhoedd ein hunain, yn gweithio ar draws yr holl gymunedau i roi hwb i lefelau gweithgarwch ac iechyd.
Rydw i’n mynd i ddefnyddio’r araith hon heddiw i dynnu sylw at rai o’n dulliau ni yn y byd chwaraeon o fynd i’r afael â phob her, a’r math o ddulliau y gallem fod yn edrych arnynt yn y dyfodol. Wrth galon fy neges mae’r ffaith bod gennym rôl, gyda’n gilydd, mewn creu cenedl egnïol ac iach. Mae’r nod yn un dengar iawn, yn un a ddylai gymell pob un ohonom ym maes gwasanaethau cyhoeddus - creu cenedl fechan sydd nid yn unig yn cefnogi chwaraeon o’r standiau neu oddi ar y soffa, ond un sy’n gosod ymarfer a chwaraeon wrth galon ein diwylliant cenedlaethol.
Ond i ddechrau, gadewch i mi rannu rhywfaint o fy rhwystredigaeth gyda chi. Mae rhai pobl yn dweud wrthyf i mai dim ond ar gyfer pobl heini iawn mae Chwaraeon, neu os ydych chi eisiau gweithio gyda sectorau eraill fel iechyd, ni ddylech chi ddefnyddio’r term chwaraeon. Sut mae Chwaraeon wedi dod yn air mor “fudr”? O gadarnhau’r nonsens yma, rydyn ni mewn perygl o ddieithrio’r bobl yr ydym eisiau gweithio gyda hwy yn benodol, neu gau ein meddwl i gyfleoedd i gydweithio cyn eu hastudio’n iawn. Felly, a gaf i ofyn i chi os gwelwch yn dda, pan fyddwn ni neu eraill yn defnyddio’r gair chwaraeon, i gofio’ch atgoffa eich hun ein bod yn siarad am weithgarwch corfforol o bob math, o swmba a ioga i bêl droed pump bob ochr – cael pobl i fod yn egnïol ac iach yw’r nod ac, fe fentraf ddweud, yn hapus a ffyniannus – gan gydnabod bod lles meddyliol yn un o brif fanteision cymryd rhan mewn chwaraeon hefyd.
Rydw i’n gwybod fy mod i’n ymlacio’n well wrth fynd allan i redeg, neu i loncian yn ysgafn erbyn hyn, nag ar unrhyw adeg arall, wrth fynd o amgylch caeau Pontcanna. Rydw i’n teimlo fy mod i’n rhoi trefn ar fy meddyliau i gyd ac rydw i’n siŵr fy mod i’n cael fy syniadau gorau pan rydw i allan yn rhedeg. Rydw i’n clywed gan eraill hefyd eu bod yn defnyddio gweithgarwch corfforol i leddfu a rheoli straen eu bywydau prysur iawn ac, yn sicr, rydw i’n gweld mwy a mwy o bobl o bob maint a siâp yn rhedeg ac yn beicio ar y llwybrau rydw i’n eu dilyn, gyda’r mwyafrif yn ei wneud yn gymdeithasol, gan ymarfer gyda’u ffrindiau.
Rydyn ni yn Chwaraeon Cymru yn hybu tirlun chwaraeon sydd wedi’i wreiddio mewn gweithgarwch creadigol sy’n hwyl i bob cyfranogwr. Yn ddiweddar, cynhaliwyd arolwg gennym ar Chwaraeon Ysgol ledled Cymru ac aeth nifer anhygoel o bobl ifanc, sef 110, 000, ati i roi eu barn am chwaraeon ysgol. Dyma’r arolwg mwyaf o’i fath yn y byd. Dywedodd y plant wrthym beth maent yn ei hoffi a ddim yn ei hoffi am chwaraeon ysgol a’r neges gadarnhaol gyffredinol oedd – os ydych chi eisiau i ni gymryd rhan mewn mwy o weithgarwch, yna mae’n rhaid iddo fagu ein hyder ni, gwneud i ni deimlo’n fwy medrus i gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill a bod yn hwyliog – (dydw i ddim yn meddwl bod hyn yn wahanol i ni i gyd yn yr ystafell yma heddiw).
Felly mae pobl ifanc Cymru wedi siarad a’n lle ni yw gwrando nawr. Rydyn ni eisoes yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y byd addysg er mwyn creu cenhedlaeth o blant a phobl ifanc sydd wedi’u paratoi yn fwy nag unrhyw genhedlaeth arall i fod yn egnïol. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi buddsoddi mewn ystod o raglenni ysgol fel Campau’r Ddraig a 5x60, sydd wedi ceisio meithrin sgiliau sylfaenol ac ennyn hyder ac angerdd dros chwaraeon ymhlith ein pobl ifanc. Yn fwy diweddar, rydyn ni wedi bod yn hybu pwysigrwydd llythrennedd corfforol yn ein hysgolion. Gall llythrennedd corfforol fod yn derm sy’n dychryn rhai pobl, ond mae’n eithaf syml ac uniongyrchol, ond yn hytrach na gorfod gwrando arnaf i’n ei egluro, rydw i’n gwybod am rywun i ddatrys y dirgelwch mewn ffordd llawer mwy effeithiol ...
Wel dyna ddweud wrthyn ni! Mae’r ffilm yma wedi cael adborth rhagorol gan amrywiaeth o sefydliadau yn rhyngwladol; rydyn ni’n trafod gyda Chanada sut gallant ei defnyddio i hybu llythrennedd corfforol ymhlith eu poblogaeth hwy. Hefyd mae wedi bod yn ddiddorol gweld bod ein cydweithwyr yng Nghanada yn rhoi blaenoriaeth uchel i fagu cenedl lythrennog yn gorfforol ac yn ystyried defnyddio gweithgarwch ar “bresgripsiwn” i ddatrys rhai o’r problemau iechyd maent yn eu hwynebu. Maent yn cydnabod ei bod yn hanfodol bwysig edrych ar ffyrdd o ddefnyddio ymarfer i leihau’r bil am bresgripsiynau.
Mae newyddion cadarnhaol am lefelau gweithgarwch plant a phobl ifanc yng Nghymru, gyda chynnydd sylweddol mewn gweithgarwch corfforol rheolaidd, o 27% yn 2011 i 40% yn 2013. Fodd bynnag, rydym yn gwybod hefyd bod lefelau gordewdra’n codi ymhlith plant oedran ysgol a bod trigolion ein cymunedau difreintiedig yn cymryd rhan yn llai aml na’r rhai yn yr ardaloedd cyfoethocach. Os am atal y tswnami yma rydw i’n clywed cymaint amdano, mae’n rhaid i ni edrych yn fwy difrifol ar atal.
Addysg, Iechyd a Chwaraeon yw tair ochr y triongl a thrwy gydweithio ar lefel leol, gellir cyflwyno atebion sy’n atal y tswnami.
Yn ddiweddar, fe wnaethom alw ar y Sector yn ehangach i weithio gyda ni i roi sylw i’r anghydraddoldeb hwn, gan ymroi tair miliwn o bunnoedd i ddod o hyd i atebion newydd a phartneriaid newydd. Fe dynnaf sylw at ddwy esiampl yn gryno.
Gan wybod bod y sector iechyd yn siŵr o ddod i gysylltiad â phob person anabl yng Nghymru, rydym wedi buddsoddi mewn partneriaeth tair blynedd newydd gwerth £180,000 rhwng Ymddiriedolaeth Betsi Cadwaladr a Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ffurfio cysylltiadau rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a chyfleoedd chwaraeon lleol, i alluogi pontio rhwydd i weithgareddau lleol priodol. Mae hyn yn cydnabod nid yn unig y manteision iechyd o ran cynyddu lefelau gweithgarwch ond hefyd yr agweddau mwy cymdeithasol ar gymryd rhan mewn chwaraeon.
Yn ychwanegol at hyn, rydym hefyd wedi buddsoddi mewn rhaglen deiran gwerth £170,000 gydag awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf a Chartrefi Rhondda Cynon Taf, partner cwbl newydd i ni yn Chwaraeon Cymru. Mae’n cefnogi cyflogi tri chynghorydd Gweithgarwch Teulu i ddarparu cyfleoedd chwaraeon i’w tenantiaid a datblygu hyfforddiant i’r staff, i’w galluogi i gynghori ar gyfleoedd i deuluoedd gymryd rhan mewn gweithgarwch lleol.
Rydym hefyd yn edrych ar fodelau y tu allan i Gymru. Mae’r cynllun Be Active yn Birmingham, gyda chydweithredu rhwng y gwasanaethau iechyd a hamdden lleol, wedi arwain at gynnydd yn nifer yr oedolion sy’n defnyddio gwasanaethau hamdden ac yn gwella eu hiechyd. Wrth werthuso’r cynllun daeth arbedion sylweddol i’r amlwg i’r pwrs cyhoeddus, a chan ddefnyddio’r dangosydd Blwyddyn Fywyd Ansawdd a Addaswyd, sy’n dipyn o lond ceg!, ond yr ydych chi i gyd yn ymwybodol ohono rwy’n siŵr, mae’r rhaglen £1,164.60 ymhell o dan y trothwy o £20,000 a ddefnyddir gan NICE i benderfynu ar ei heffeithiolrwydd. A fyddai hwn yn fodel a allai weithio i ni yng Nghymru neu a oes rhywfaint o ddysgu yma y gallem ei ddefnyddio gyda’n gilydd.
Yn Chwaraeon Cymru rydym wedi bod yn defnyddio’r Ymgyrch Sut Mae’ch Symud Chi? i hybu chwaraeon ymhlith merched mewn ffordd newydd, fel gweithgaredd hwyliog, cymdeithasol, ac mae’n dangos arwyddion addawol o gyrraedd cynulleidfa newydd a chydnabod y gweithle fel amgylchedd allweddol i hybu gweithgarwch. Rydw i’n amau ein bod ni i gyd yn gwybod bod rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb personol am ein hiechyd ein hunain ac felly mae cynnwys gweithgarwch ym mhatrwm bywyd pawb yn mynd i fod yn allweddol.
Rydw i’n gwybod fy mod i’n lwcus iawn yn Chwaraeon Cymru gydag ystafelloedd newid, cawodydd a rhywle diogel i adael fy meic. Dychmygwch pe bai gan weithwyr ym mhob man drefniadau tebyg – fel ei bod yn haws i bobl gymryd y cam hwnnw a’u bod yn cael eu hannog i’w gymryd. Gall y sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru chwifio baner gweithgarwch corfforol, nid yn unig er lles eu hiechyd ond fel cyfrwng i greu ethos tîm ar draws y sefydliad. Rydw i’n gwybod bod pocedi o arferion gwych yn bodoli, ond nawr, yn fwy nag erioed, mae’n rhaid i ni wneud hyn yn norm.
Rydw i wedi ymatal rhag crybwyll chwaraeon perfformiad ond byddwn ar fai yn peidio â chrybwyll effaith Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. ’Wna i byth anghofio ysblander ac ysbrydoliaeth y seremoni agoriadol. Roedd yn arddangos popeth sydd mor wych am y DU ac rwy’n siŵr eich bod chi i gyd yn falch iawn o weld y GIG (a sylfaenwyd gan y Cymro arloesol ei hun ym maes iechyd y cyhoedd, Nye Bevan) wrth galon y seremoni, gyda’r plant yn bownsio ar welyau ysbyty. Rydyn ni’n teimlo’n falch iawn yn yr un ffordd o’r hyn sydd gan Chwaraeon i’w gynnig, a gyda llaw, y Gemau hyn oedd y Gemau mwyaf llwyddiannus yn yr oes fodern i athletwyr Cymru, gan ennill 7 medal Olympaidd a 15 medal Paralympaidd – bron i 12 % o’r casgliad o fedalau gyda 5 % o’r boblogaeth, gan gynnwys 6 aur. Nawr mae gennym gyfle arall i athletwyr Cymru ddisgleirio ar lwyfan y byd yng Ngemau Cymanwlad Glasgow fis Gorffennaf eleni. Rydym yn gweithio gyda’n holl bartneriaid er mwyn sicrhau bod unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n cael ei ysbrydoli’n cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Yn ôl at y presennol ac rydw i yma heddiw i ddechrau trafodaeth ar ffurf arfaethedig y cydweithredu rhwng y sectorau iechyd a chwaraeon. Os ydyn ni am greu Cymru fwy egnïol yn gorfforol ac, o ganlyniad, Cymru iachach, mae’n rhaid i ni edrych ar atebion mwy integredig a blaengar. Rydym yn edrych ar chwaraeon fel maes sydd wedi bod ar y llinell ochr yn y drafodaeth genedlaethol am iechyd y cyhoedd ers gormod o amser. Efallai mai’r rheswm am hyn yw fy sylwadau i ar y dechrau am y farn am chwaraeon, ac felly mae’n rhaid i ni newid hyn.
Rydym yn hyderus bod posib i chwaraeon chwarae eu rhan mewn mynd i’r afael â rhai o’r heriau iechyd rydym yn eu hwynebu fel cenedl ac rydym yn awyddus i ffurfio cysylltiadau. Rydym yn gwybod bod ein cenedl yn teimlo’n angerddol am ein timau a’n hathletwyr, ond rydyn ni eisiau newid y cae chwarae. Rydyn ni am i Gymru fod yn enwog, nid yn unig am lwyddiant ei hathletwyr elitaidd, ond fel cenedl iach a ffyniannus lle mae bod yn egnïol yn norm. Diolch yn fawr.
Os hoffech chi rannu enghreifftiau o chwaraeon ac iechyd yn cydweithio, cofiwch roi gwybod i ni! A beth ydi'ch barn chi? Ydi e'n syniad da i chwaraeon ac iechyd gydweithio'n well?
0 comments:
Post a Comment